Mae dau gyn-aelod o staff Coleg Llyfrgellwyr Cymru (CLW), David Stoker a Lucy Tedd wedi casglu atgofion a ysgrifennwyd gan bobl a fu’n gweithio yn y Coleg rhwng 1964 a 1989.
Cyhoeddwyd y llyfr yn hydref 2023 a’i lansio yn Aberystwyth ym mis Hydref. Daeth llawer o’r cyfranwyr i’r lansiad ynghyd â staff blaenorol a staff presennol CLW/DIS.
Yn y lansiad, talwyd teyrnged i gyn-gydweithwyr nad ydyn nhw gyda ni bellach. Yn anffodus, nid oedd Frank Hogg, prifathro cyntaf ac unig brifathro CLW, wedi teimlo’n ddigon hwylus i ysgrifennu ei gyfraniad cyn ei farwolaeth ym mis Hydref 2022. Fodd bynnag, roedd wedi darllen rhai o’r cyfraniadau (neu fe’u darllenwyd iddo) ac roedd wrth ei fodd yn clywed y straeon am hanes CLW.

Mae bron i 30 o gyfranwyr yn y llyfr, sef staff mewn amryw o rolau, gan gynnwys gofalwr, dylunydd graffeg, gwasanaethau’r cyfryngau, staff llety a chyllid, staff cyswllt a hyfforddi, llyfrgellydd, a staff addysgu.
Roedd cefnogaeth a gwaith archifydd y brifysgol Julie Archer a’i thîm yn hanfodol wrth helpu i ddod o hyd i luniau perthnasol yn eu casgliad ar gyfer y llyfr ac i’w sganio. Mae’r llyfr wedi’i ddylunio gan Julia Jenkins a arferai weithio yno, ac mae wedi’i argraffu yn lleol gan y Lolfa yn Nhal-y-bont.
Mae’r llyfr yn cyd-fynd â’n prosiect hel atgofion, a’n nod yw ehangu ein casgliad o atgofion i gynnwys cynifer o staff ac alumni (cyn-fyfyrwyr) â phosibl o’r chwe degawd diwethaf am CLW, DILS, a DIS. Gweler y dudalen gyswllt i gael manylion ynghylch sut i gymryd rhan.
Prynu CLW Memories / Atgofion CLlC
Mae’r llyfr ar gael i’w brynu mewn clawr meddal o wefan Prifysgol Aberystwyth.



Atgynhyrchir y lluniau drwy garedigrwydd Vince Jones (a dynnodd nhw yn lansiad y llyfr. Mae rhagor o luniau o’r lansiad arlein; Vince sy’n rhedeg Whole Picture).