Coleg Llyfrgellwyr Cymru (CLlC)

Yn 1959, argymhellodd Adroddiad Roberts (teitl swyddogol, ‘The structure of the library service in England and Wales’) y dylid “sefydlu ysgol llyfrgellyddiaeth yng Nghymru”, gan bwysleisio’r angen i lyfrgelloedd mewn cymunedau dwyieithog gael staff “sy’n gyfarwydd â’r iaith Gymraeg ac yn hyddysg yn hanes a llenyddiaeth Cymru”. Roedd adroddiad arall yn 1962 (‘adroddiad Bourdillon’) wedi pwysleisio brys yr angen hwn, a sefydlwyd Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru (CLlC) yn fuan wedyn yn 1964.

Roedd CLlC yn sefydliad modern a blaengar wedi’i sefydlu yng nghyd-destun y llywodraethu cydsyniol ar ôl y rhyfel, y chwyldro gwybodaeth, a thwf disgyblaethau academaidd newydd oedd â gogwydd proffesiynol iddynt gan gynnwys cyfrifiadureg, a gwyddor llyfrgell a gwybodaeth. Yn 1964 hefyd cyflwynwyd deddf ddylanwadol Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd, a hon yn gorfodi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus “cynhwysfawr ac effeithlon” fel dyletswydd statudol. Cyn hyn, roedd Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1850 (a diwygiadau dilynol) wedi cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer darparu rhai llyfrgelloedd cyhoeddus ond roedd y ddeddf wedi’i chyfyngu i raddau ac nid oedd i bawb, ac yn dibynnu ar ddyngarwyr cyfoethog fel Andrew Carnegie i gael cymorth ychwanegol.

Yn y cyd-destun hwn, credai Frank Hogg, prifathro dylanwadol cyntaf (ac unig brifathro) CLlC, y gallai’r Coleg gyrraedd y “safon ryngwladol uchaf” ac erbyn dechrau’r 1970au câi ei hystyried yn eang fel yr ysgol lyfrgell fwyaf blaenllaw yn Ewrop, yn denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd. O dan ei arweiniad ef, yn fuan iawn daeth hon i fod yr ysgol lyfrgell fwyaf yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 400 o fyfyrwyr erbyn 1968, a llwyddodd i alluogi miloedd o fyfyrwyr ledled y byd i ddatblygu eu gyrfa mewn llyfrgelloedd, gwybodaeth ac archifau.

Un o’r uchafbwyntiau y bydd llawer o gyn-fyfyrwyr yn ei gofio o bosibl yw’r Ysgolion Haf Rhyngwladol i Raddedigion (IGSS) a gynhelid o 1973 tan 2001. Bydd eraill yn cofio llyfrgell bwrpasol CLW (a alwyd yn Llyfrgell Thomas Parry yn ddiweddarach), y neuaddau preswyl cynnar yn Nhanybwlch (fflatiau preifat erbyn hyn), neu’r daith trên hardd (os braidd yn hir) i Aberystwyth.

Daeth CLlC yn rhan o Brifysgol Cymru Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth bellach) yn 1989 ac yn ddiweddarach daeth yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth (DIS). Yn sgil yr uno symudodd llawer o’r staff gwreiddiol draw i’r Brifysgol ac yn sgil ymddeoliadau yn y 2010au gwelwyd ymddeoliad nifer o staff allweddol yr oedd eu gyrfaoedd wedi rhychwantu’r cyfnod pwysig hwn o newid technolegol, cymdeithasol a gwleidyddol.

Thomas Parry library exterior and grounds
Thomas Parry library exterior and grounds (C) Alyson Tyler

Er ei fod yn rhyngwladol yn ei gwmpas a’i weledigaeth, cafodd CLW hefyd effaith sylweddol ar gymuned, addysg a diwylliant Cymru. Ysgogiad cychwynnol i sefydlu’r coleg oedd hyfforddi llyfrgellwyr dwyieithog. Roedd Adran Astudiaethau Cymreig yn bodoli o’r cychwyn cyntaf yn CLW, ac aethpwyd ati’n benodol i recriwtio a hyfforddi staff Cymraeg eu hiaith, a hynny wedi datblygu dros y blynyddoedd i gyflwyno pynciau craidd trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, mae llyfrgellwyr a addysgwyd gan CLW wedi chwarae rhan flaenllaw mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, llyfrgelloedd academaidd a llyfrgelloedd arbenigol yng Nghymru ers ei sefydlu.

Rhan allweddol o’r llwyddiant hwn oedd sefydlu llyfrgell CLW yn 1971, yr adeilad cyntaf ar y campws pwrpasol newydd sbon yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Roedd hon yn ‘llyfrgell llyfrgellyddiaeth’ bwrpasol a oedd â chynnwys rhagorol a chynhwysfawr ym maes llyfrgellyddiaeth a gwybodaeth, a hynny’n cynnwys labordy catalogio, a chasgliadau plant a Chymreig arbenigol a helaeth.

Caeodd Llyfrgell Thomas Parry ei drysau yn 2018 pan symudodd DIS i gampws Penglais, sef prif safle addysgu a bywyd y brifysgol. Mae atgofion lu am Lyfrgell Thomas Parry, gan iddi fod yn elfen gyson ym mhrofiadau staff a myfyrwyr drwy gydol 60 mlynedd o newid – i ymchwilwyr a myfyrwyr fel ei gilydd. Byddai myfyrwyr dysgu o bell, ar eu hysgolion astudio preswyl yn Llanbadarn, a myfyrwyr ar yr Ysgolion Haf Rhyngwladol enwog i Raddedigion, wrth eu bodd yn bod yn y Llyfrgell, gyda’i ffocws ar ddysgu ac ymchwil ac wedi’i dylunio’n benodol ac yn bwrpasol i astudio llyfrgellyddiaeth fel proffesiwn.

Bu llawer o newidiadau dros y blynyddoedd, gan gynnwys datblygu cyrsiau dysgu o bell hyblyg sydd wedi denu myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt ers dros 30 mlynedd. Er y ‘ddau ddull’ o addysgu, sef cael dysgwyr amser llawn a dysgwyr o bell, parhau yr un fath y mae’r genhadaeth graidd, sef addysgu cenedlaethau o fyfyrwyr mewn llyfrgellyddiaeth, rheoli gwybodaeth a rheoli archifau a chofnodion.
Ers 2020 rydym wedi cynnig dysgu o bell mewn cyfuniad o ddigwyddiadau personol ac ar-lein. Yn 2022 croesawyd y garfan gyntaf o israddedigion ar gyfer ein cynllun gradd newydd sbon mewn Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol: Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd, gan adlewyrchu tueddiadau cynyddol mewn treftadaeth ddiwylliannol ddigidol a ffisegol, a’r cysylltiadau rhyngddynt, a’r sector gwybodaeth ehangach.