Ynghylch y prosiect

Yn 2024, bydd yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed. Mae hon yn garreg filltir wych i ddathlu llwyddiannau miloedd o fyfyrwyr a dros 100 o staff sydd wedi bod yn rhan o’r daith hon.

Rydym wrthi’n cynllunio cyfres o ddigwyddiadau a phrosiectau i nodi’r pen-blwydd, gan gynnwys adolygu ei effaith a’r prosiect hel atgofion hwn.

Bydd y prosiect yn casglu atgofion, lluniau a deunydd arall yn ymwneud â’r Coleg a gyrfaoedd staff a myfyrwyr.

Byddem wrth ein bodd pe byddech yn cymryd rhan yn y prosiect hwn ac os hoffech wneud hynny, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth yn unig, anfonwch nodyn atom i (trwy’r tudalen Cysylltu) a byddwn yn eich ychwanegu at ein rhestr bostio.

Llenwch yr arolwg hwn am eich atgofion o’ch amser yn Aberystwyth.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

Bws
CLlC bws ar promenade Aberystwyth

Mae’r prosiect ymchwil cychwynnol, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Ymchwil y Brifysgol, wedi cynnwys ymchwil desg i ddeall cyd-destun a tharddiad addysg gwybodaeth a llyfrgellyddiaeth yng Nghymru. Mae’r wefan hon yn rhan o’r cam nesaf, sef casglu atgofion a straeon am CLW, DILS a DIS, ac i weithio tuag at arddangosfa a digwyddiad i ddathlu’r 60 mlwyddiant.

Arweinir prosiect atgofion CLW gan Dr Anoush Simon, sef pennaeth presennol DIS. Y cynorthwyydd ymchwil yw Dr Alyson Tyler.

Dr Anoush Simon yw pennaeth presennol yr adran ac mae hi’n uwch ddarlithydd. Ymunodd â’r adran yn 2003 gan weithio cyn hynny ym maes archifau ffilm a theledu ac mae ei diddordeb yn y rhain yn parhau.

Mae diddordebau ymchwil ac addysgu Anoush yn canolbwyntio ar effaith technoleg ar gymdeithas ac yn arbennig y proffesiwn gwybodaeth, a hyn yn cynnwys theorïau cymdeithas wybodaeth; allgáu cymdeithasol a’r gagendor digidol; TGCh a chymuned, rhyw a TG; gweithwyr llyfrgell – gyrfaoedd a chymhellion.

Darllenwch ragor am Dr Anoush Simon

Dr Alyson Tyler yw cynorthwyydd ymchwil y prosiect. Astudiodd yn yr adran yn 1998-99 ar gyfer gradd Meistr, ac yn ddiweddarach enillodd Radd Meistr Hyfforddiant Ymchwil, ac yna ei PhD yn 2006 ar lyfrgelloedd menywod. Bu’n gweithio ym maes polisi llyfrgelloedd i Lywodraeth Cymru 2005-2018 ac mae bellach yn ymchwilydd annibynnol.

Darllenwch ragor am Dr Alyson Tyler