Yn 2024, mae’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed. Mae hon yn garreg filltir wych i ddathlu llwyddiannau’r miloedd o fyfyrwyr a’r 100 a mwy o staff sydd wedi bod yn rhan o’r daith hon.
Sefydlwyd Coleg Llyfrgellyddiaeth Cymru (CLlC / CLW) yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth yn 1964. Ar ôl 25 mlynedd, yn 1989, daeth y Coleg yn rhan o Brifysgol Cymru Aberystwyth, gan fod yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth. Yn 2002 newidiodd ei henw i Adran Astudiaethau Gwybodaeth, ac yn 2018 symudom o’n cartref yn Llanbadarn i gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth. Mae hanes cryno i’w gael ar y dudalen am CLlC.
Mae’r flwyddyn pen-blwydd hon (2024-25) yn nodi 35 mlynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ogystal â phen-blwydd CLW yn 60 oed.

Rydym yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau a phrosiectau i nodi’r pen-blwydd, gan gynnwys adolygu ei effaith ar addysg llyfrgelloedd ac archifau yng Nghymru a thu hwnt, ynghyd â’r prosiect hel atgofion hwn.
Bydd y prosiect hel atgofion yn casglu atgofion a darnau ysgrifenedig, lluniau a deunyddiau eraill sy’n gysylltiedig â CLlC/CLW, DILS a DIS, a gyrfaoedd staff a myfyrwyr. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at arddangosfa o atgofion a memorabilia, ar-lein ac o bosibl arddangosfa fach yn Aberystwyth yn 2025 (manylion i ddilyn).
Mae croeso mawr i chi gymryd rhan yn y prosiect hwn ac os hoffech wneud hynny, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth yn unig, a fyddech cystal â chysylltu â ni drwy ein tudalen Cysylltu â ni, gan gynnwys nodi a hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ai peidio.
Arolwg
Llenwch yr arolwg hwn am eich atgofion o’ch amser yn Aberystwyth.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.
Aduniad CCF a Chyn-fyfyrwyr (Mehefin 20fed – 22ain 2025)
Gwahoddiad i ddathlu penblwydd 60 yr adran ym mhenwythnos Aduniad CCF a Chyn-fyfyrwyr.
Mae’r Adran yn eich gwahodd i ginio (bwffe a chacen) i ddathlu dros 60 mlynedd o astudiaethau gwybodaeth yn Aberystwyth, a hefyd yn y Ffair wedi hynny.
Cofrestrwch cyn y 30ain o Fai. Cysylltwch efo alumni-events@aber.ac.uk gyda unrhyw gwestiynnau.